Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 29 Ionawr 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.02 - 15.58 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC Janet Finch-Saunders AC John Griffiths AC Elin Jones AC Darren Millar AC Lynne Neagle AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC (ar gyfer eitemau 9 i 14) Peter Black AC (yn lle Kirsty Williams AC ar gyfer eitemau 1 i 7) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Tina Donnelly, Goleg Brenhinol y Nyrsys Lisa Turnbull, Coleg Brenhinol Nyrsio Cymru Rory Farrelly, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Ruth Walker, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Dr Phil Banfield, BMA Cymru Dr Victoria Wheatley, BMA Cymru Wales Dr Rhid Dowdle, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr Dr Sally Gosling, Chartered Society of Physiotherapy Philippa Ford, Chartered Society of Physiotherapy Dr Alison Stroud, Royal College of Speech and Language Therapists Dr Charlotte Jones, BMA Cymru Wales Dr Philip White, BMA Cymru Wales Dr Peter Horvath-Howard, Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru Dr Paul Myers, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Dr Rebecca Payne, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Mary Beech, Deoniaeth Cymru Dr Martin Sullivan, Deoniaeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Helen Finlayson (Ail Clerc) Christopher Warner (Clerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Rhys Morgan (Dirprwy Glerc) Sian Thomas (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.2 Dirprwyodd Peter Black ar ran Kirsty Williams AC ar gyfer yr eitemau'n ymwneud â'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).
2 Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 2
2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.
3 Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 3
3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.
3.2 Cytunodd Rory Farrelly i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor ynghylch cynllun recriwtio diweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i lenwi'r 140 swyddi nyrsio gwag yn y Bwrdd Iechyd. Cytunodd Rory Farrelly hefyd i egluro'r dyddiadau cau perthnasol ar gyfer ceisiadau a nifer y ceisiadau a ddaeth i law.
4 Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 4
4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.
5 Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 5
5.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 8
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.2 Mae'r Pwyllgor wedi cytuno i ofyn am wybodaeth ychwanegol am y trefniadau sydd ar waith yn yr Alban i sicrhau lefelau diogel staff nyrsio heb ddeddfwriaeth.
8 Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): paratoi ar gyfer gwaith craffu
8.1 Nododd y Pwyllgor benderfyniad y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1 a Chyfnod 2 a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ddweud nad oedd unrhyw bryderon sylweddol ynghylch yr amserlen arfaethedig.
8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at randdeiliaid i ddweud bod y Bil yn cael ei gyflwyno.
9 Ymchwiliad i'r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 1
9.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.
10 Ymchwiliad i'r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 2
10.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.
11 Ymchwiliad i'r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 3
11.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.
11.2 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor ynghylch:
· amlinelliad o'r costau'n gysylltiedig â chodi'r targed ar gyfer nifer y lleoedd ar gyrsiau hyfforddi meddygon teulu o 136 i o leiaf 200 (fel yr argymhellir gan y Gymdeithas Feddygol Brydeinig) neu i nifer y teimlent y byddai'n realistig; a
· dadansoddiad o'r ardaloedd a lleoliadau yng Nghymru lle nad yw lleoedd hyfforddi wedi'u llenwi dros y 3 blynedd diwethaf.
12 Papurau i’w nodi
12.0a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr.
12.1 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Arloesi Meddygol: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
12.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
12.2 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau: P-04-600 Deiseb i achub y gwasanaeth meddygon teulu yng Nghymru
12.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
13 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 yn y cyfarfod ar 4 Chwefror 2015
13.1 Derbyniwyd y cynnig.
14 Ymchwiliad i'r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru: ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law
14.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.